Cymysgu ydi'r broses "mixing" mae cerddorion yn ei ddefnyddio wrth greu'r
"master". Mae technegwyr Recoridau Sain yn cyfeirio at y fersiwn derfynol -
h.y. y fersiwn a ddefnyddir i greu'r recordiau masnachol ohono, fel tāp
meistr. Ond ar gyfer "mastering", mae'n beryg fod angen rhwybeth hir wyntog
fel "llunio'r fersiwn terfynol" neu "llunio'r tāp meistr" neu "llunio'r
fersiwn meistr".
H.y. os na all rhywun arall feddwl am rywbeth mwy bachog!
----- Original Message -----
From: "Garmon Davies" <[log in to unmask]>
To: "John Puw" <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 04, 2003 10:57 AM
Subject: Mastering
> ..yng nghyswllt Cerddoriaeth - ydy 'cymysgu' yn iawn ynteu a oes angen
> cynnwys rhyw elfen i ddynodi mai dyma'r fersiwn derfynol e.e. 'cymysgu
> terfynol'?
>
> Diolch.
>
> Garmon.
>
> Garmon Davies
> Ewrolingo
> **+44 (0)1656 668 603
>
|