Gin trap - trap cwningen ar lafar
Wil
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 10, 2003 7:21 PM
Subject: Trapiau/Maglau
Gofynnwyd inni am enwau pum trap gwahanol ar gyfer arddangosfa. Ar hyn o
bryd nid ydym ni - na'r un a ofynnodd inni - wedi'u gweld. Llwyddais i gael
gwybodaeth ynghylch rhai ohynt o'r we, ond os oes gan unrhyw un enwau sy'n
bod eisoes, eglurhad tarddiad yr enwau, neu ddisgrifiad o'r trapiau, byddwn
yn ddiolchgar. Gan fod pob enw yn y rhestr yn dechrau efo priflythyren, nid
yw'n bosibl dweud pa rai sy'n enwau pobl.:
Pole trap - gosodir hwn ar ben polyn i ddal adar ysglyfaethus sy'n clwydo ar
y polyn.
Fenn trap - gan fod hwn yn cael ei gynhyrchu gan Mr Fenn, cymeraf mai ar ei
ol o yr enwyd.
Gin trap - wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd. Gwn yn iawn sut beth ydy o,
gan imi roi fy llaw mewn un pan oeddwn yn blentyn "i weld be' fasa'n
digwydd". Ond a oes enw Cymraeg, neu beth yw tarddiad yr enw Saesneg?
Finch trap - dim ond unwaith mae "finch trap" yn ymddangos ar y we, ar safle
yn Awstralia i bobl sy'n ymwneud â phincod, ond a allaf fod yn sicr mai trap
i adar bach yw'r ystyr yn gyffredinol? Dw i'n amau ei fod - os nad yw
rhywun wedi clywed am drap a ddyfeisiwyd gan ryw Mr Finch.
Juby trap - digon o gyfeiriadau at hwn ar y we, ond heb lun na disgrifiad o
unrhyw fath. A oedd 'na ryw Mr Juby? A fedrwch chi feddwl am unrhyw un y
gallaf gysylltu ag o i ofyn?
Llawer o ddiolch,
Ann
|