Efallai y dylai Cryno Ddisg a Chryno Ddisgiau fod yn CDd.
Rwy'n tueddu i beidio ag ychwanegu terfyniad lluosog at acronymau a
byrfoddau Cymraeg, a gadael i'r cyd-destun ddangos y gwahaniaeth. e.e. AALl
am awdurdod ac awdurdodau addysg lleol. Mae'n osgoi problemau fel
penderfynu rhwng AauALl/AALlau!
Glenys
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 02, 2003 10:37 AM
Subject: DVDs
> Beth yw lluosog DVD? Hynny yw, cymeraf fod CD's yn Gryno Ddisgiau, ac
felly
> dylent fod yn CDiau, er mod i'n teimlo imi weld CDau, ond 'dw i ddim hyd
yn
> oed yn siwr am be' mae DVD yn sefyll - Digital Video Disc?
> Diolch,
> Ann
>
|