Dywedodd Tim:
"O'm rhan i, mae'r mater trist yma wedi'i gau felly ac ni ddymunaf
ddychwelyd iddo"
a bron yn syth wedyn:
"(Rhaid bod BG, wrth gwrs, fel ysgolhaig Ffrangeg o fri, yn gyfarwydd â phob
argraffiad o DAF)."
Bwriad y grwp, dw i'n cymryd, yw helpu ein gilydd a chodi safon yr iaith,
nid darparu talwrn er difyrrwch yr aelodau, felly ni ddywedaf innau ragor yn
gyhoeddus. Gall ymateb i unrhyw neges gymryd amser, ac 'rwyf yn fwy cyndyn
erbyn hyn ynghylch ymgynghori a Bruce ar ymholiadau i'r rhestr 'Does gen i
ddim pleser mewn bod yn llatai negeseuon fel yr uchod ac mae gen i well
bethau i'w gwneud na theipio atebion iddynt.
Ann
|