Deallaf gan Gwen Rice ei bod hithau hefyd yn derbyn negeseuon yn ol gan
Antur Teifi, felly ffoniais i nhw. Mae manylion e-bost yr Antur wedi newid
yn ddiweddar, ac mae'n rhaid bod rhywun sy'n gweithio iddynt, sydd hefyd yn
aelod o'r grwp, wedi anghofio rhoi gywbod i'r grwp (a bod yr un un, neu
gydweithiwr, wedi anghofio rhoi gwybod i Gwen). Gan fod 107 o bobl yn yr
Antur ag e-bost, nid oedd yn bosibl dod o hyd i'r aelod, ond efallai byddai
Prys yn medru gweld pwy ydyw a rhoi gwybod i'r Antur (01239 710238).
Ann
|