Bydd raid i mi fod yn gryno gan fy mod ar fin ymadael â'r swydd hon ac yn
gorfod cau pen y mwdwl o fewn y munudau nesaf, ond ofnaf fod y sylwadau yma
gan BG braidd ar yr ochr sigledig o'r safbwyntiau hanesyddol, cyfreithiol, a
milwrol. Y mae ystyr gyfreithiol benodol i'r cysyniad o 'reiat', ac
anghymwynas â'r iaith a'i defnyddwyr fel ei gilydd yw cymylu'r ystyron manwl
yma. (Gw. 'Halsbury's Laws of England' os am oleuni pellach ar y pwnc).
Am y tro, carwn gwahodd BG yn garedig i ystyried tarddiad ac arwyddocâd y
gair 'sicarios', sef gwreiddyn yr enw 'Iscariot', ac hefyd hanes cynnar y
gair 'terrorisme' o fewn cyd-destun gwleidyddiaeth Ffrainc.
Hwyl am y tro,
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 04 June 2003 14:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Terrorist/anti-terrorist
Sut y byddem yn cyfieithu "terrorize": Onid "brawychu"? sut felly y gellir
gwrthod "brawychwr", "brawychiaeth", "brawychol"?
Ynghylch terfysgaeth/brawychiaeth:
Cytunaf yn hollol a^ sylwadau D Bullock a G. Davies. Yr oeddem, Mr D G
Jones a minnau, yn llwyr gytu^n na ellid derbyn y camddefnydd o
"derfysgaeth" i olygu "terrorism". Ni ellir ei drin ar waha^n i "derfysg"
ac i "derfysgwr". Gweler GPC: ystyr "terfysgwr" drwy gydol y canrifoedd fu
"agitator, rioter, mutineer, insurrectionist", ac ystyr "terfysg" yw "riot,
mutiny, commotion, insurrection." Yn y Beibl, Marc xv, 7, cyfeirir at
Barabbas fel "terfysgwr", fel aelod, yn Saesneg o "insurrection". Y mae byd
o wahaniaeth rhwng "rioter" ("terfysgwr") a "terrorist" ("brawychwr"). Yn
ddieithriad bu terfysgwr erioed yn un o dyrfa derfysglyd, yn terfysgu'n
gyhoeddus, ar y strydoedd. Sonia haneswyr yn gywir am "derfysg" a
"therfysgwyr" y Siartiaid yng Nghasnewydd a'r Drenewydd ac am "derfysgwyr" y
Beca - gweithredwyr torfol, cyhoeddus, yn aml yn ddi-drefn. Creadur cwbl
wahanol yw'r "terrorist" ("brawychwr") cyfoes - gan amlaf unigolyn sy'n
gadael bom yn rhywle ac yna'n ffoi'n ddigon pell. Gall fod yn aelod o griw
o "terrorists" ond nis gwelir hwy'n gyhoeddus gyda'i gilydd yn cadw reiat.
Bwriad y "terfysgwr" yw protestio, fel arfer yn ddi-drefn ac ofer, yn erbyn
awdurdod; bwriad y "brawychwr" yw "brawychu", codi braw (neu arswyd os
mynnwch) - felly brawych(i)aeth amdani. Ni ddylid am eiliad dderbyn
arweiniad y cyfryngau a'u Cymraeg arswydus ei safon: hwy sydd ar fai am
lurgunio yn eu hanwybodaeth ystyr "terfysg" a "terfysgwr", ac am briodoli'r
camystyr i'r bathiad "terfysgaeth". Hwy hefyd a fathodd bethau anghywir a
gwrthun megis yr "IRA darpariaethol". Ni dderbyniwn y ddadl "mae'n anghywir
ond mae pawb (h.y. rhai) yn ei ddefnyddio, felly rhaid inni eu dilyn". Os
mynnir amddifadu "terfysgwr" o'i wir ystyr - "rioter" - yna gorfodir ni i
chwilio am air Saesneg - "reiadwr". Hurtrwydd y galwn ni hyn. Ni allwn
gytuno a^'r Dr Lewis ar ei ddewis anffodus o dermau, ac ni newidir yr hyn a
ddywed GyrA.
pp. Bruce G.
|