Tybed ydy hyn ar sail 'dwy fil' etc (nid bod hynny yn cyfiawnhau'r peth!)?
Gwen
-----Original Message-----
From: David Bullock [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 04 June 2003 12:02
To: [log in to unmask]
Subject: 2003
Cyfeiriad Garmon Davies at y cyfryngau sy wedi f'ysgogi i godi'r cwestiwn
yma nawr, er ei fod yn corddi ers rhyw ddeunaw mis bellach... ond gan
mai 'Mil naw naw dau, mil naw naw tri, mil naw naw pedwar' (neu Un naw naw
dau etc) oedd yr enwau ar y blynyddoedd 1992, 1993 a 1994, pam mae cynifer
o siaradwyr sydd fel arall yn eitha dechau yn defnyddio dwy fil a dwy, dwy
fil a thair, ac yn edrych ymlaen mae'n debyg at ddwy fil a phedair?
|