Pan oeddwn yn gweithio yn y byd mawr fan draw, roedd adran wybodaeth y
cwmni yn dweud fod ganddynt ddau fath o wasanaeth - un 'reactive' e.e.
ymateb i ymholiadau gan eu cwsmeriaid; a hefyd un 'proactive', oedd a
wnelo anfon gwybodaeth i reolwyr y cwmni am ryw sefyllfa neu gilydd oedd
yn bygwth, heb i neb ofyn am y wybodaeth. 'Roedd y gwasanaeth rhagweithiol
felly yn creu'r ddadl oddi fewn i'r cwmni, yn hytrach nag ymateb i
sefyllfa yn unig, fel oedd y gwasanaeth adweithiol
Rwy'n cytuno a Glenys fod y gair yn cael ei gam-ddefnyddio'n reit aml, yn
y Saesneg a'r Gymraeg
Dafydd
|