I'r rhai ohonoch sydd heb ymweld a safle Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn
ddiweddar, mae'n werth i chi edrych ar http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/
Ymhlith llawer o adnoddau gwerthfawr sydd ganddyn nhw, mae yna gylch
trafod sy'n delio gyda materion o ddiddordeb i gyfieithwyr. Mae hyn yn
cynnwys amodau a thelerau i gyfieithwyr, arferion da a drwg, cystrawen a
chywair.
Byddai'n dda gweld trafodaeth ar faint o waith all cyfieithydd ei
gyflawni o fewn diwrnod a materion tebyg ar y safle hwnnw, a chadw'r
drafodaeth ar welsh-termau-cymraeg ar gyfer materion yn ymwneud a
thermau yn unig.
Mae'r Gymdeithas hefyd yn darparu gweithdai a sesiynau hyfforddi ar
gyfer cyfieithwyr, ac mae'n werth cadw llygad ar eu safle hefyd i weld
cyhoeddiadau ynghylch digwyddiadau i ddod.
Delyth
Tim Saunders wrote:
> Diolch i bawb a ymatebodd. Diddorol yw sylwi bod nifer o asiantaethau
> cyfieithu masnachol yn ei ystyried yn rhesymol i gael cyfieithiad o fil
> o eiriau'n ôl o fewn deuddydd.
>
> Tim
D.Prys [log in to unmask]
|