'...Mae Peak flow rate yn ymddangos fel cyfradd anterth llif yn y
termiadur felly yw peak flow meter yn mynd yn ‘mesurydd anterth llif’
ynteu yw ‘mesurydd llif’ yn ddigonol?'
Barn arbenigwyr bioleg yma yw bod angen i'r llif fod yn ei anterth,
felly ‘mesurydd anterth llif’
_________________________________
'Process of negative feedback (yng nghyswllt y corff). ‘y broses
adborthi negyddol’?'
Mae yma bwynt diddorol: ai 'negyddol' neu 'negatif'? Pe bawn i yn canmol
myfyrwyr am eu gwaith (mae yn gallu digwydd - weithiau) byddwn yn rhoi
'adborth cadarnhaol'; neu pe bawn yn eu beirniadu, byddai'n 'adborth
negyddol'.
Ond yn y cyd-destun hwn, cyd-destun seiberneteg (rheolaeth a
sefydlogrwydd systemau), ystyr fathemategol sydd i'r 'positive' a'r
negative', felly 'adborth positif/negatif' mi dybiwn.
Prys
--
_______________________________________________
J P M Jones MA PhD CChem FRSC
Prifysgol Cymru - Bangor - University of Wales
Trefenai
Ffordd Caergybi
BANGOR
Gwynedd
LL57 2PZ
tel: (+44) 1248 382955/383013/351151
ffacs: (+44) 1248 383990
_______________________________________________
|