Wrth gyfieithu deddfwriaeth o wahanol fathau, rydyn ni'n gorfod delio â
nifer o dermau gwyddonol. Un peth sy'n peri problem yw enwau deunyddiau
fel: "Selenite Cystine Trimethylamine N-Oxide Dulcitol", "Lysine
Decarboxylase Glucose". Mae cymreigio'r sillafiad yn weddol rwydd o ddilyn
y cyfarwyddiadau sydd yn Termau Bioleg, Cemeg a Gwyddor Gwlad, ond mae'n
anodd gwybod sut y dylid cyflunio'r enw yn Gymraeg - ai dilyn trefn yr
elfennau Saesneg ee. " Selenit Cystin Trimethylamin N-Ocsid Dwlsitol" neu
gymryd mai ansoddeiriol yw'r elfennau sy'n rhagflaenu "Dwlsitol" ac mai
"Dwlsitol Selenit Cystin Trimethylamin N-Ocsid" yw'r Gymraeg. Rwy'n
ymwybodol nad yw'n bosibl llunio rheol sy'n ateb pob achos, ond oes
canllawiau cyffredinol? Gan fod yr elfennau sy'n rhagflaenu dwlsitol yn
enwau ar sylweddau eraill mae'n anodd cymhwyso cyfarwyddiadau Peter Wynn
Thomas ynghylch trefn ansoddeiriau (neu eiriau sy'n gweithredu fel
ansoddeiriau) (Gramadeg y Gymraeg t. 318).
All rhywun gynnig arweiniad?
Diolch.
Richard M Crowe
Cyfieithu Cyfraith- Legal Translation
Swyddfa'r Llywydd - Presiding Office
Cynulliad Cenedlaethol Cymru - National Assembly for Wales
ffôn - tel 029 2082 6795
ffacs - fax 029 2082 6101
e-bost - e-mail: [log in to unmask]
Dylai'r datganiadau neu'r sylwadau uchod gael eu trin fel rhai personol
ac nid o reidrwydd fel datganiadau neu sylwadau gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru, unrhyw ran ohono neu unrhyw gorff sy'n gysylltiedig
ag ef.
Any of the statements or comments made above should be regarded as
personal and not necessarily those of the National Assembly for Wales,
any constituent part or connected body.
|