Ie, 'roeddwn innau hefyd wedi bod yn methu penderfynu ynghylch "amgen", gan
fod 'na elfen o "arall *a* gwell", nad yw'n addas os yw'r ta\g ar gyfer pobl
sy'n *methu* gweld y ddelwedd.
Dyma'r cyd-destun:
"Rhaid i bob llun gael alt. tag:
· Lluniau addurniadol yn unig - rhowch ddisgrifiad o'r llun fel alt tag.
· Lluniau sy'n gysylltiadau - rhowch ddisgrifiad o'r hyn y mae'r llun yn ei
wneud (e.e. disgrifiad o ble mae'r cyswllt yn arwain).
· Lluniau fel bwledi - rhowch "-" fel alt. tag.
· Lluniau sy'n rhannu'r tudalen - rhowch "---" fel alt tag."
Felly, a ydw i'n iawn i feddwl y byddai "ta\g disgrifiad testun" neu "ta\g
disgrifio'r testun" yn gwneud y tro?
Ann
----- Original Message -----
From: "Dafydd Tomos" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 06, 2003 6:06 PM
Subject: Re: tags
> On Thu, Feb 06, 2003 at 05:39:58PM -0000, Muiris Mag Ualghairg wrote:
> > Ni ellir defnyddio tag testun o achos byddai hynny'n cynnwys llawer o
dagiau
> > eraill sy'n gallu cynnwys testun.
>
> Ie, yn anffodus mae yna lawer yn defnyddio "alt tag" yn anghywir yn
> saesneg. Mae alt yn briodoledd ar gyfer nifer o dagiau felly
> 'disgrifiad testun' fasen i'n ei alw fe.
>
> Dwi ddim yn siwr sut i gyfleu alternative fan hyn, nid yw 'amgen'
> cweit yn gywir.
>
> --
> Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
>
|