Ni ellir defnyddio tag testun o achos byddai hynny'n cynnwys llawer o dagiau
eraill sy'n gallu cynnwys testun. Yr elfen sy'n bwysig yw'r 'Alt' - mae hyn
yn dangos rhywbeth arall (testun) os nad yw tag yn gallu gweithio am ryw
reswm (megis diffodd gweld lluniau yn y meddalwedd). Mae angen cynnwys y
cysyniad o 'alternative' wrth ei ddisgrifio.
Byddai'n bosib, wrth gwrs, gadael ALT a'i drin fel cod, gan mai dyna yw e,
yn hytrach na'i gyfieithu, wedyn byddai 'Tag Alt' gyda chi.
I gymhlethu pethau ychydig bach (sori) yn dechnegol nid yw 'Alt' yn dag ond
yn 'briodoledd (attribute)' i dag arall, er enghraifft, dyma ddarn o god yn
disgrifio sut y byddai llun ohono i'n ymddangos ar dudalen, a thestun yn
disgrifio'r llun i'r rhai nad oedd yn gallu gweld y llun:
<img src="llun o muiris.gif" ALT="Dyma lun o Muiris yn eistedd o flaen i
gyfrifiadur">
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 06, 2003 5:19 PM
Subject: Re: tags
Felly, ar gyfer :
title tag - ta\g teitl (the title tag - ta\g y teitl)
image tag - ta\g delwedd (the image tag - ta\g y ddelwedd)
alt tag - nawr 'te ... ciciwch fi os ydw i wedi camddeall - dw i'n gwneud fy
nghorau - os yw "alternative tag" yn golygu "tag sy'n rhoi'r dewis o weld
rhywbeth mwy cymhleth fel *testun* yn unig", beth sy'n bod ar "ta\g testun"?
Mae'n fyrrach, ac felly'n fwy tebyg o gael ei arfer, na "ta\g dewis testun".
Neu a fyddai hynny'n medru golygu llawer o bethau eraill hefyd - mae rhaid
bod 'na ryw broblem, neu mi fyddai'n "text tag" yn y Saesneg?
Ann
----- Original Message -----
From: "Gareth Bevan" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, February 06, 2003 9:32 AM
Subject: Re: tags
> Gweler _GPC_ d.g. _tàg/1/, tagiaf: tagio_.
> Gareth
>
>
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03
|