Pa fath o 'urdd' offeiriadol, inni gatholigion ceir sawl urdd offeiriadol
(byddai'r Tad Fitzgerald yn gwybod mwy am y rhain na fi) - er enghraifft ces
i f'addysg (peth ohono beth bynnag) mewn coleg Chweched dosbarth o dan
arweiniad Cymdeithas Mair - a'r athrawon nad oedd yn lleygwyr yn aelodau o'r
urdd honno. Ond at hynny ceir damcaniaeth fod pob offeiriad yn aelod o ryw
'urdd anweledig' (efallai y byddai 'dosbarth' yn well). Dw i ddim wedi rhoi
ystyriaeth fanwl i'r wahaniaeth rhwng 'Urddo' ac 'Ordeinio' o'r blaen ond o
beth dw i'n cofio y mae aelodau traddodiad isel (efengylaidd) yr Eglwys yng
Nghymru yn fwy tebygol o ddefnyddio 'Urddo' offeiriad - gan dderbyn bod eu
dealltwriaeth o swyddogaeth offeiriad yn wahanol i ddealltwriaeth aelodau
traddodiad uchel yr eglwys honno ac aelodau'r eglwysi Catholig ac uniongred
(sydd â'r un ddealltwriaeth, os deallaf i'n gywir, dw i'n siwr y byddai'r
Hybarch Abad y Tad Deiniol ym Mlaenau Ffestiniog yn gallu ateb y cwestiwn
hwn inni).
O ran y traddodiad Diwygiedig - ar wahân i'r eglwysi esgobol a ydynt yn
defnyddio'r ferf 'to Priest' i ddisgrifio'r seremoni ordeinio, sefydlu,
urddo yn Saesneg - os nad ydynt y peth gorau fyddai gofyn pa derm maent yn
ei ddefnyddio a glynu wrth hwnnw. Mae'r broblem yn codi oherwydd bod rhai
Anglicaniaid yn defnyddio'r ferf 'priest' yn hytrach nag ordeinio er mai
'seremoni ordeinio' yw'r seremoni!
Muiris
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.449 / Virus Database: 251 - Release Date: 27/01/03
|