Dwi'n defnyddio graffig a graffigau i gyfeirio at luniau unigol/nifer
ohonynt; graffigwaith i gyfeirio at y gwaith yn gyffredinol, a graffeg i
gyfeirio at yr wyddor/ddisgyblaeth - yn union fel mae'r Termiadur Ysgol
yn ei awgrymu.
I mi mae'n enw unigol - fel llun efallai o ran y cysyniad - a faswn i
ddim yn ei dreiglo, yn yr un modd nad yw rhywun yn treiglo gêm, gan mai
gair benthyg ydyw, ac o'i dreiglo, fe gollir rhan bwysig o'i hanfod.
|