Rhagor o oleuni - neu dywyllwch. 'Goleudy'r Strymbl' sydd gan y Parch E
Llwyd Williams ar td. 54 yn 'Crwydro Sir Benfro' (Llyfrau'r Dryw, 1958). O
ddilyn patrwm Mumbles = Mwmbwls, byddwn i'n disgwyl gweld 'Strwmbwl' - rwy'n
cymryd mai tarddiad Sgandinafaidd sydd i'r ddau enw. Wedi dweud hynny, mae
'Pen-caer' yn rhagori!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, February 11, 2003 12:54 PM
Subject: Re: Strumble 3
> Ddrwg gen i am fod yn hwyr efo atebion Bruce. Gyda llaw, ydych chi'n
> sylweddoli y bydd Trafodaethau Stumble 1, 2 a 3 yn cael eu gwahaniaethau
am
> byth gan yr archif?
>
> Y ddau yma'n Awgrymiadu'n unig:
> St Ann's - Capel Ann
> St Ann's Head - Penmaen Ann
>
> St Bride's - Llansanffraed oedd yr enw gwreiddiol yn o^l B G Charles,
> "Place-names of Pembrokeshire", Cyf. II, t. 631.
> Gazetteer - Sain Ffred
> Mae Bruce yn meddwl iddi weld yn rhywle - St. Bride's Bay - Bae San Ffred.
>
> Strumble - *gwrthun* yw Pen Strwmbl. Pen-caer sy'n gywir. Gweler B G
> Charles, "Place-names of Pembrokeshire", Cyf. I, t.253. "The extremity of
> the peninsula is also called 'Pencaer' [sic], in English 'Strumble Head'.
> Gazetteer: Pen-caer.
>
> pp. Bruce
> 5 Heol Belmont, Bangor, Gwynedd, LL57 2HS, UK
> (01248) 371987
> [log in to unmask]
> ----- Original Message -----
> From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, February 11, 2003 12:10 PM
> Subject: Strumble 3
>
>
> > Diolch o galon i chi i gyd am eich atebion.
> >
>
|