Yn ystod y drafodaeth ar 'cynaliadwy/cynaladwy' ym mis Ebrill y llynedd
nododd Gareth Bevan o Eiriadur y Brifysgol, "yn 1957 ... nid oedd gan staff
y Geiriadur enghraifft o'r ffurf 'cynaladwy'. Pan adolygir y gwaith, fe
gynhwysir y ffurf 'cynaladwy' oherwydd bod gennym enghreifftiau ohoni, gan
gynnwys un o Eiriadur Walters ar ddiwedd y 18fed ganrif."
Falmai a Claire
|