Mae'n debyg bod tipyn o gwyno wedi bod ynglyn â'r CRB - dyma a ddywed Bwrdd
yr Iaith yn eu cofnodion ar
http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/pdf/Cyfarfod59/59-c.pdf - mae'n amlwg mai
mater o un o adrannau'r Llywodraeth yn gwneud ei gorau glas i anwybyddu'r
Gymraeg sydd wrth wraidd mynnu defnyddio'r geiriau Saesneg yn y Gymraeg -
rhywbeth sy'n mynd i arwain at bobl yn dweud nad yw'r Gymraeg yn addas ar
gyfer trin a thrafod pynciau cyfoes!
"Bu'n rhaid cyfeirio cynllun y Biwro Cofnodion Troseddol at y Cynulliad. Er
iddynt gael cyngor gan y Bwrdd adeg eu sefydlu yn 1999, y dylent ofalu bod
eu system gyfrifiadurol yn gallu delio â gwybodaeth yn Gymraeg, anwybyddwyd
y cyngor hwnnw. O ganlyniad, derbynwyd nifer fawr o gwynion wrth i ysgolion
a mudiadau ieuenctid o bob math geisio a methu â chofrestru gwybodaeth yn
Gymraeg. Mae'r Biwro yn parhau i wrthod â chydymffurfio, ar waetha
trafodaethau a llythyrau niferus gan y Bwrdd dros y flwyddyn ddiwethaf, a
sefydliadau ac unigolion. Ni chafwyd ymateb cadarnhaol chwaith gan yr
Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett i lythyr ein Cadeirydd. Deallwn fod
Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad wedi ysgrifennu at David Blunkett
yn awr."
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.445 / Virus Database: 250 - Release Date: 21/01/03
|