ON i'r drafodaeth hon - rwyf wedi defnyddio 'pobl (sydd/y mae) â diabetes
(arnynt)' yn y gorffennol - heb y geiriau mewn cromfachau pan oedd angen bod
yn gryno iawn. Am wn i ei bod yn well osgoi 'cleifion' yn yr achos yma -
mae llawer ohonynt yn iachach pobl na'r rhan fwyaf ohonom!
(Ac OON amherthasol i'r drafodaeth hon - Cymdeithas Diabetes UK yn mynnu
defnyddio 'diabetes' yn hytrach na'r clefyd melys etc.)
Glenys
----- Original Message -----
From: Ann Corkett <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 02, 2003 4:19 PM
Subject: Re: people with Parkinson's
> Diolch, Magi. Well inni benderfynu ychydig yn rhagor o dermau gan ei bod
> hi'n ymddangos bod pawb arall a'u traed i fyny o hyd, a neb i'n rhwystro
ni!
> Ann
> ----- Original Message -----
> From: teulu lewis <[log in to unmask]>
> To: <[log in to unmask]>
> Sent: Thursday, January 02, 2003 2:19 PM
> Subject: Re: people with Parkinson's
>
>
> > Cleifion Parkinson amdani. Beiblaidd iawn .... fy atgoffa am "yn glaf
> > o'r parlys....Llawer gwell na dioddefwyr ....ag ati. Rhaid cyfaddef nad
> > wyf yn poeni hanner cymaint a chi am swnio'n negyddol neu'n wleidyddol
> > gywir....... wfft i hynny! Gallech fod fel y dyn hwnnw hefo'r mul a'r
> > mab yn chwedl Aesop (ta Hans Christian Andersen oedd o dwch...) a
> > pheidio plesio unrhyw un yn y diwedd... Byddwn yn dweud cleifion y
> > galon; cleifion canser ayyb felly cleifion Parkinson yn OK. Fel rheol
> > byddaf yn dweud beth bynnag mae Delyth yn ei benderfynu - hen bryd iddi
> > ddod a llyfr newydd allan i bobl fel ni.....
> > Magi
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Thursday, January 02, 2003 01:01
> > Subject: people with Parkinson's
> >
> >
> > > Anelir y cwestiwn hwn yn bennaf at bobl yn y byd 'meddygol', ac yn
> > arbennig
> > > at Delyth Prys os yw'n digwydd bod ar lein.
> > >
> > > Mae'r ymadrodd uchod yn codi drosodd a throsodd yn y gwaith sy' gen i.
> > Mae
> > > 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson arnynt' yn hynod o drwsgl'. Dyw Bruce
> > ddim
> > > yn hoffi 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson' ac yn awgrymu 'dioddefwyr
> > clefyd
> > > Parkinson', neu 'cleifion Parkinson' ond mae gen i deimlad anniddig yr
> > > ystyrir y rhain yn rhy negyddol ddyddiau hyn. Ni ddefnyddir y gair
> > 'suffer'
> > > ond teirgwaith yn y llyfryn i gyd, ac mae'n cyfeirio bob amser at
> > symptomau,
> > > yn hytrach nag at unrhyw glefyd. A oes unrhyw wrthwynebiad i ddefnydd
> > yr
> > > ymadroddion hyn?. Beth yw'r dull cymeradwy ddyddiau hyn o gyfeirio at
> > bobl
> > > y mae arnynt ryw salwch efo enw hir?
> > >
> > > Diolch yn fawr
> > >
> > > Ann
> >
|