Anelir y cwestiwn hwn yn bennaf at bobl yn y byd 'meddygol', ac yn arbennig
at Delyth Prys os yw'n digwydd bod ar lein.
Mae'r ymadrodd uchod yn codi drosodd a throsodd yn y gwaith sy' gen i. Mae
'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson arnynt' yn hynod o drwsgl'. Dyw Bruce ddim
yn hoffi 'pobl sydd a^ chlefyd Parkinson' ac yn awgrymu 'dioddefwyr clefyd
Parkinson', neu 'cleifion Parkinson' ond mae gen i deimlad anniddig yr
ystyrir y rhain yn rhy negyddol ddyddiau hyn. Ni ddefnyddir y gair 'suffer'
ond teirgwaith yn y llyfryn i gyd, ac mae'n cyfeirio bob amser at symptomau,
yn hytrach nag at unrhyw glefyd. A oes unrhyw wrthwynebiad i ddefnydd yr
ymadroddion hyn?. Beth yw'r dull cymeradwy ddyddiau hyn o gyfeirio at bobl
y mae arnynt ryw salwch efo enw hir?
Diolch yn fawr
Ann
|