Cweit. Fe fuasai'n help garw pe bai'r Cynulliad Cenedlaethol yn defnyddio'i
bwerau i ddeddfu parthed ystyron geiriau Cymraeg.
Mae angen dybryd am roi grym cyfraith i GyG RL, N!
Tim
-----Original Message-----
From: Delyth Prys [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 30 January 2003 09:43
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Enhanced Disclosure (2)
Wn i ddim am achos penodol y BCT, ond am enghraifft o Lywodraeth Prydain (am
unwaith) yn rhoi canllawiau da iawn ar y defnydd o'r Gymraeg, gan gyfeirio'n
gyson at ofynion y Ddeddf Iaith, ewch i http://www.e-envoy.gov.uk/ a chlicio
ar yr adran News and Media. Mae'n son am Guidelines for UK Government
Websites ar waelod y dudalen honno. Adran 2.7 yw'r un berthnasol ar 'other
languages'. Arf da wrth ddelio a chwsmeriaid anystywallt a llawer o gyngor
ymarferol ar dudalennau gwe Cymraeg neu ddwyieithog.
Delyth
----- Original Message -----
From: "Tim Saunders" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, January 30, 2003 8:51 AM
Subject: Re: Enhanced Disclosure (2)
> Wedi clywed (ac ni wn pa mor gywir yw hyn) fod y BCT yn defnyddio cwmni
> preifat i gyflawni'r gwaith, a bod y rheiny dan gamargraff nad ydynt yn
> ostyngedig i ofynion y Ddeddf. Rhagor o wybodaeth gan rywun?
>
> Tim
>
> -----Original Message-----
> From: Muiris Mag Ualghairg [mailto:[log in to unmask]]
> Sent: 29 January 2003 22:25
> To: [log in to unmask]
> Subject: Re: Enhanced Disclosure (2)
>
>
> Mae'n debyg bod tipyn o gwyno wedi bod ynglyn â'r CRB - dyma a ddywed
Bwrdd
> yr Iaith yn eu cofnodion ar
> http://www.bwrdd-yr-iaith.org.uk/pdf/Cyfarfod59/59-c.pdf - mae'n amlwg
mai
> mater o un o adrannau'r Llywodraeth yn gwneud ei gorau glas i anwybyddu'r
> Gymraeg sydd wrth wraidd mynnu defnyddio'r geiriau Saesneg yn y Gymraeg -
> rhywbeth sy'n mynd i arwain at bobl yn dweud nad yw'r Gymraeg yn addas ar
> gyfer trin a thrafod pynciau cyfoes!
>
> "Bu'n rhaid cyfeirio cynllun y Biwro Cofnodion Troseddol at y Cynulliad.
Er
> iddynt gael cyngor gan y Bwrdd adeg eu sefydlu yn 1999, y dylent ofalu bod
> eu system gyfrifiadurol yn gallu delio â gwybodaeth yn Gymraeg,
anwybyddwyd
> y cyngor hwnnw. O ganlyniad, derbynwyd nifer fawr o gwynion wrth i
ysgolion
> a mudiadau ieuenctid o bob math geisio a methu â chofrestru gwybodaeth yn
> Gymraeg. Mae'r Biwro yn parhau i wrthod â chydymffurfio, ar waetha
> trafodaethau a llythyrau niferus gan y Bwrdd dros y flwyddyn ddiwethaf, a
> sefydliadau ac unigolion. Ni chafwyd ymateb cadarnhaol chwaith gan yr
> Ysgrifennydd Cartref, David Blunkett i lythyr ein Cadeirydd. Deallwn fod
> Rhodri Morgan, Prif Weinidog y Cynulliad wedi ysgrifennu at David Blunkett
> yn awr."
>
>
>
> ---
> Outgoing mail is certified Virus Free.
> Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> Version: 6.0.445 / Virus Database: 250 - Release Date: 21/01/03
>
|