Dw i newydd ffonio ysgrifenyddes arbenigwr Parkinson's (gweler fy neges
arall). 'Roedd yn fwy cyfarwydd a disgrifiadau lladin/groeg o'r cyflwr nag
unrhyw ddisgrifiad Cymraeg, ond 'roedd hi'n cytuno bod 'Gallu a Methu' yn
well na "Gallu a Phallu', am y rheswm soniodd Sian amdano. Wrth imi son
wrthi am 'Gallu ac Anallu', sylweddolais fod hwnnw'n swnio'n lletchwith ar
lafar. Cynigiais Symud a Stopio hefyd, ond dwedodd fod 'Gallu a Methu' yn
well disgrifiad o'r cyflwr.
Felly, diolch, Muiris a Berwyn. Gallu a Methu amdani.
Ann
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, January 06, 2003 8:40 AM
Subject: Re: On/Off Phenomenom
> A fyddai 'gallu a methu' yn well yn y cyd-destun hwn (er bod 'gallu' a
> phallu' yn apelio mwy)?
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Sunday, January 05, 2003 7:34 PM
> Subject: Re: On/Off Phenomenom
>
>
> > Mae "gallu a phallu" yn sicr yn fachog ond, i mi, ystyr "pallu" yw
> > "gwrthod" a byddai'r ymadrodd yn cyfleu'r ystyr bod y claf yn gwrthod
> > symud. Gellid dadlau, wrth gwrs, mai corff y claf sy'n gwrthod symud -
> > ond mae arnaf ofn y gallai ymddangos fel sarhad ar y claf.
> > Sian
> >
> > -----Original Message-----
> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
> > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of teulu lewis
> > Sent: 05 January 2003 18:53
> > To: [log in to unmask]
> > Subject: Re: On/Off Phenomenom
> >
> > Feiddiwn i ddim mentro ar drafodaeth academaidd am gyfieithu hefo'r rhan
> > fwyaf o aelodau'r cylch - dwi ddim yn yr un cae a nifer helaeth
> > ohonoch - ond mae deunydd fel hwn yn agos at fy nghalon. Ai taflenni
> > gwybodaeth i gleifion yw'r rhain Ann? Os felly, anghofiwch y Saesneg yn
> > gyfangwbl a rhowch eich hun yn sefyllfa'r claf cyffredin neu aelod o'i
> > deulu - sy'n trio deall rhywbeth am y salwch annifyr, newydd ma
> > (newydd, neu fyddech chi ddim yn trafferthu darllen taflen wybodaeth, na
> > fyddech!) Mae diagnosis ambell i salwch yn ddigon o sioc heb geisio
> > cymryd y manylion i mewn hefyd.
> > Felly, gallu a phallu yn wych - ac ydio ots os yw'r Gymraeg yn hollol
> > wahanol i'r Saesneg o ran trefn a fformat a chyfieithu pob gair cyn
> > belled ag y bo'r wybodaeth angenrheidiol yn cael ei chyfleu? Oes isio
> > phenomenon o gwbl? Nid yw gallu a phallu yn amhendant o gwbl, yn enwedig
> > pan fydd y cyd-destun yn cyfeirio at symud. Dywedwch wrth eich cleient
> > fod ei Saesneg yn ddel iawn ac yn llwyddo i gyfleu cyflwr uffernol gyda
> > hiwmor bron - sydd ddim yn ddrwg o beth - ond wnaiff yr holl beth mo'r
> > tro yn Gymraeg o gwbl.....
> > Os mai arall yw'r gynulleidfa - mae gallu a phallu yr un mor addas - a
> > bydd yn haws defnyddio geiriau mawr ar ei chyfer.......
> > Mae'n syndod bod gen i unrhyw gleientiaid, wir - tydyn nhw ddim yn cael
> > dweud beth mae nhw isio hanner yr amser...........Magi'n gwybod yn
> > well - rial hen fydwraig......
> > Cofion magi
> >
> > ----- Original Message -----
> > From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
> > To: <[log in to unmask]>
> > Sent: Sunday, January 05, 2003 12:28
> > Subject: On/Off Phenomenom
> >
> >
> > > Mewn perthynas a chlefyd Parkinson o hyd, dyma'r disgrifiad:
> > >
> > > On/Off Phenomenon This phenomenon is a characteristic of some, but by
> > no
> > > means all, people with long-standing Parkinson's. It can best be
> > described
> > > as an unpredictable shift from mobility - 'on' - to a sudden inability
> > to
> > > move - 'off'. 'Off' to 'on' can occur just as suddenly. Some people
> > have
> > > likened it to a light switch being turned on and off.
> > >
> > > Mae Bruce yn dweud nad oes fawr o ystyr i "Ffenomen I Ffwrdd/Ymlaen",
> > ac yn
> > > ffansio "Ffenomen Gallu a Phallu"! - a finnau hefyd, ond a yw'n rhy
> > > amhendant? Mae'n beth od os na ddefnyddir rhywbeth yn y Gymraeg
> > eisoes -
> > > cyfieithiad llythrennol yn fwy na thebyg, yn anffodus.
> > >
> > > Beth yw'ch barn? A glywsoch chi unrhyw beth arall?
> > > Diolch yn fawr am bob cymorth.
> > >
> > > Ann
> >
> > ---
> > Incoming mail is certified Virus Free.
> > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> > Version: 6.0.434 / Virus Database: 243 - Release Date: 25/12/2002
> >
> >
> > ---
> > Outgoing mail is certified Virus Free.
> > Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
> > Version: 6.0.434 / Virus Database: 243 - Release Date: 25/12/2002
> >
> >
>
>
|