Fel dysgwraig, dysgais safon = standard, ansawdd = quality. 'Roedd yn
"ddarganfyddiad" imi sylweddoli bod Cymry a siaradai am "fwyd o safon", er
enghraifft, yn golygu "o safon uchel", nid "safonol". Ond, wrth feddwl, mae
hyn yn digwydd i'r gwrthwyneb yn y Saesneg - mae "food of quality" yn
dderbyniol, ond nid "food of standard".
Ann
----- Original Message -----
From: Berwyn Jones <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 21, 2003 4:59 PM
Subject: Re: Quality Assured
> Mae hwn yn codi cwestiwn sydd wedi croesi fy meddwl sawl tro, sef beth yn
> union yw'r gwahaniaeth rhwng 'ansawdd' a 'safon'? Bob tro y gwelaf
hysbyseb
> sy'n honni bod y bwyd yn 'fwyd o ansawdd', byddaf yn dweud wrthyf fy hun
> "Nage, nage, 'bwyd o safon' rwyt ti'n ei feddwl!". Byddai'n rhaid dweud
> 'bwyd o ansawdd da', beth bynnag, dybiwn i.
>
> Berwyn
>
> ----- Original Message -----
> From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
> To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
> Sent: Tuesday, January 21, 2003 4:19 PM
> Subject: Quality Assured
>
>
> > Newydd fod yn cyfieithu ar y pryd yn un o seminarau'r Bwrdd Croeso.
Daeth
> > ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ata' i yn ystod yr awr ginio a gofyn
> > sut y buaswn yn cyfieithu'r ymadrodd uchod. Roedd gen i ryw frith gof o
> fod
> > wedi defnyddio 'Sicrhau Ansawdd' pan oeddwn yn gweithio i Gyngor Conwy.
> >
> > Ond dyma hi'n awgrymu'r cyfieithiad 'Safon Sicr' -- ac rwy'n hoffi
hwnnw'n
> > llawer gwell.
> >
> > Wyn
> >
> >
>
>
|