Mae hwn yn codi cwestiwn sydd wedi croesi fy meddwl sawl tro, sef beth yn
union yw'r gwahaniaeth rhwng 'ansawdd' a 'safon'? Bob tro y gwelaf hysbyseb
sy'n honni bod y bwyd yn 'fwyd o ansawdd', byddaf yn dweud wrthyf fy hun
"Nage, nage, 'bwyd o safon' rwyt ti'n ei feddwl!". Byddai'n rhaid dweud
'bwyd o ansawdd da', beth bynnag, dybiwn i.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Wyn Hobson" <[log in to unmask]>
To: "Berwyn Prys Jones" <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 21, 2003 4:19 PM
Subject: Quality Assured
> Newydd fod yn cyfieithu ar y pryd yn un o seminarau'r Bwrdd Croeso. Daeth
> ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ata' i yn ystod yr awr ginio a gofyn
> sut y buaswn yn cyfieithu'r ymadrodd uchod. Roedd gen i ryw frith gof o
fod
> wedi defnyddio 'Sicrhau Ansawdd' pan oeddwn yn gweithio i Gyngor Conwy.
>
> Ond dyma hi'n awgrymu'r cyfieithiad 'Safon Sicr' -- ac rwy'n hoffi hwnnw'n
> llawer gwell.
>
> Wyn
>
>
|