Annwyl Neil,
Diolch am y cyngor.
> Llawer haws fyddai dilyn yr arfer o rhoi'r ddogfen ar y We a phostio'r
> cyfeiriad i'r rhestr. Gellid gwneud hyn dros dro os nad yw "cyhoeddi" yn
> dderbyniol.
Ar hyn o bryd fyddwn i ddim yn gwybod sut!
Mae modd rhoi ffeiliau o ddiddordeb parhaol ar safle'r rhestr
> hefyd ( gweler http://www.jiscmail.ac.uk/files/WELSH-TERMAU-CYMRAEG/ ) os
> yw'r rheolwyr yn fodlon.
Dw i newydd edrych ar y cyfarwyddiadau eto - ac yn cael yr argraff bod
llawer wedi'i dorri allan ers y tro diwethaf - y gwaharddiad ar fflamio, er
enghraifft! 'Roedd gen i gof nad oedd pobl i anfon ffeiliau at y grwp
(oherwydd heintiau, mae'n debyg), a dyna baham y rhoddais wahoddiad i bobl
gysylltu a fi). Efallai gall Prys ein goleuo ni ar y drefn i'w dilyn.
Mae gen i gynllwyn i ofyn i Bruce ysgrifennu ychydig o bethau eraill i ddenu
pobl draw at safle Cymdeithas y Cyfieithwyr
(http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/default_cymraeg.asp ) hefyd - Megan,
'roeddwn i'n bwriadu codi hyn gyda thi'n gyntaf! -rhof wybod os byddaf yn
llwyddo.
Dymuniadau gorau,
Ann
----- Original Message -----
From: Neil Shadrach <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, January 21, 2003 8:59 AM
Subject: Re: Enwau Planhigion
> Ann Corkett <[log in to unmask]>:
>
> >Diolch am yr holl ymholiadau - cofiwch anfon ataf innau'n uniongyrchol,
yn y
> >cyfeiriad isod, yn hytrach na "chlytro" Inboxes pawb a negeseuon.
>
> Llawer haws fyddai dilyn yr arfer o rhoi'r ddogfen ar y We a phostio'r
> cyfeiriad i'r rhestr. Gellid gwneud hyn dros dro os nad yw "cyhoeddi" yn
> dderbyniol. Mae modd rhoi ffeiliau o ddiddordeb parhaol ar safle'r rhestr
> hefyd ( gweler http://www.jiscmail.ac.uk/files/WELSH-TERMAU-CYMRAEG/ ) os
> yw'r rheolwyr yn fodlon.
>
>
|