Meg Elis <[log in to unmask]> gofiodd:
> ...am goblyn o bryd o dafod gan f'athro Cymraeg gynt pan ddywedais fy mod
> yn mynd "i'r deintydd"
Beth yw barn y seiat am natur cyfeiriad e-bost, yn arbennig pe
bai'n un sy'n ymddangos yn debyg i enw person?
Dim ond ychydig cyn darllen yr atgof am y pryd o dafod roeddwn
i wedi "cywiro" tudalen ar y we oedd yn gwahodd cysylltiad
"trwy e-bost i hwnma@fanma" i "trwy e-bost at honcw@fancw".
(Yn yr un modd, byddwn mae'n debyg wedi gofyn am lythyr
hen-ffasiwn "at y Parch Edig, Stryd Ebol, Dre Sel".)
Erbyn hyn rydw i'n amheus mai "i" fyddai'n gywir: pe na bai'r
cyfeiriad yn debyg i enw person, buaswn i'n hapusach gydag "i"
-- "trwy e-bost i blwch@post". Gobeithio na ddylai'r gystrawen
newid yn Ôl sillafiad cyfeiriad e-bost?
Un peth y gwn i'n sicr, mod i wedi drysu erbyn hyn.
|