'sgrifennodd Berwyn:
> Doeddwn i ddim yn hoff iawn o 'trywyddwr' gan ei fod, i mi, yn cyfleu
> rhywbeth sy'n dilyn rhywbeth arall yn hytrach nag yn ei anfon. Byddai'n well
> gen i ddefnyddio 'llwybrwr' neu 'llwybreiddiwr' - neu, erbyn meddwl, efallai
> y byddai 'llwybrydd' yn well enw ar declyn. A ellir defnyddio 'llwybro' (gw.
> GPC td 2238 - cerdded, myned, ymlwybro) am 'to route'? Gellid ei ddefnyddio
> i fathu 'llwybrol', 'llwybradwy', 'llwybredig'...
'llwybrydd' sydd yn rhestr MEU Cymru. Beth fydd orau am 'routing'?
Dwi ddim yn gwybod os oes rhaid cyfieithu 'firewall' yn union. Mae
"fire wall" yn rhywbeth sy'n cael ei roi mewn adeilad er mwyn arbed
tan rhag lledu yn gyflym.
Dyw'r benthyciad i fyd cyfrifiadureg ddim yn hollol addas yn fy marn i
ond mae e'n derm bachog sy'n cwmpasu lot o wahanol elfennau a dyna'i
bwrpas.
Dwi wedi enwi fy firewall adref yn 'pared' ond oes angen term
cyffredinol dwi'n credu fod defnyddio'r geiriau 'gwarchod' neu
'amddiffyn' yn fwy disgrifiadol.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|