> Mewn cyd-destun cyfrifiadurol. Mae'r rhestr termau rhyngrwyd yn
> rhoi 'porth' -- ond dyna'r gair a gynigiwyd ar y negesfwrdd, dro'n ôl,
> am 'portal'. Mae gennyg ddogfen o'm blaen sy'n cynnwys y ddau derm Saesneg
> hyn.
Os yw 'gateway' yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhwydweithio electronig
yna porth yw'r term addas. Mae'n disgrifio y pwynt lle mae un
rhwydwaith yn cysylltu i'r llall (fel arfer y rhyngrwyd) a fe all fod
nifer o elfennau yn rhan o'r porth (e.e. llwybrydd, mur gwarchod,
cyfarpar rhwydweithio, cysylltiad DSL neu ffibr)
Dyw cyfieithu portal i porth ddim yn gwneud synnwyr i mi gan nad yw'r
term saesneg yn cael ei ddefnyddio yn yr ystyr o 'ddrws' ond yn
hytrach 'mynedfa' neu rhyw air tebyg i hynny.
--
Dafydd Tomos <URL:http://www.fydd.org/d/>
|