Dyna'r union bwynt groesodd fy meddwl ar o^l anfon fy neges. Rwy'n credu mai
'mur ta^n' neu 'wal da^n' fyddwn i wedi'i gynnig, gan ffafrio'r ail yn
hytrach na'r cyntaf. Dw i dim yn gwbl siw^r ynghylch 'mur gwarchod'.
Doeddwn i ddim yn hoff iawn o 'trywyddwr' gan ei fod, i mi, yn cyfleu
rhywbeth sy'n dilyn rhywbeth arall yn hytrach nag yn ei anfon. Byddai'n well
gen i ddefnyddio 'llwybrwr' neu 'llwybreiddiwr' - neu, erbyn meddwl, efallai
y byddai 'llwybrydd' yn well enw ar declyn. A ellir defnyddio 'llwybro' (gw.
GPC td 2238 - cerdded, myned, ymlwybro) am 'to route'? Gellid ei ddefnyddio
i fathu 'llwybrol', 'llwybradwy', 'llwybredig' a llu o fathiadau poenus
eraill heb i ni deimlo ein bod yn difetha rhin llinell Williams Parry
'Llwybreiddiodd ei ryfeddod prin o'r blaen' - fel y gwnaed, braidd, yn achos
'A'r lloer yn ariannu'r lli.' [= And the moon finances the flow!]
O edrych ar y we, gwelais fod 'viewshed' wedi'i batrymu ar 'watershed', ond
go brin bod sail gadarn i'r bathiad am mai gwahanfa yw watershed ac nid, hyn
y gwn i, yr holl dir y mae'r nant/afon a'i hisnentydd yn llifo drosto... Nid
siadadwyr Cymraeg yw unig rai sy'n bathu termau rhyfedd! A barnu wrth yr hyn
a welais ar wahanol wefannau, gyda llaw, mae'n ymddangos yn fwy o derm
daearyddol nag o derm hanesyddol.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Neil Shadrach" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, December 06, 2002 3:28 PM
Subject: Re: Viewshed, routers a firewalls
> Berwyn Jones <[log in to unmask]>:
>
> >Yn y rhestr o dermau'r rhyngrwyd yn [log in to unmask] cynigir 'trywyddwr' am
> 'router' gan Maldwyn Jones o Athrofa Gogledd Dwyrain Cymru. Yn y rhestr
sydd
> ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (i roi hysbyseb amdani yma), mae gen
i
> 'blwch llwybreiddio' am 'router box' ac ar sail hynny byddwn i'n cynnig
> 'llwybreiddiwr' (er bod GPC yn dweud mai ystyr hwnnw yw 'arweinydd,
> tywysydd, cyfarwyddwr, trefnwr') neu 'llwybrwr'. Efallai y gallai bois y
> cyfrifiaduron ein goleuo ynghylch union waith 'router' a dyfarnu p'un o'r
> ddau derm fyddai orau ganddyn nhw. Bydd angen cofio ei bod yn well bathu
> gair y gellir ffurfio berf ac ansoddair ohono hefyd - 'to scent, to
snuffle'
> yw 'trywyddu' yn o^l GPC.
> >
> >Yn yr un rhestr yn d@fydd cynigir 'llen da^n' am 'firewall'.
> >
>
> router:
> A device which forwards packets ( messages or fragments of messages )
> between networks. The forwarding decision is based on network layer
> information and routing tables, often constructed by routing protocols.
>
> rout(e)ing:
> The process, performed by a router, of selecting the correct interface and
> next hop for a packet being forwarded.
>
> [ diffiniadau - http://foldoc.doc.ic.ac.uk/foldoc/ ]
>
> Os yw "llen da^n" yn cael ei dderbyn am "firewall" beth yw "fire curtain"
> [http://www.jrclancy.com/Products/firecurtains.htm]?
>
>
|