Heb glywed ymadrodd safonol - diffyg cwsg oedd problem y rhan fwyaf o'r
mamau newydd yr oeddwn i'n gofalu amdanynt - nhw neu'r babis! Mae'r
symptom yn gyffredin i sawl cyflwr wrth gwrs - wela i ddim o'i le hefo
mynd i gysgu'n ddisymwth neu syrthio i gysgu'n ddisymwth efallai'n
cyfleu'r elfen anfwriadol yn well.. Bathwch derm Ann fach - dyma faes
ble mae angen llawer o waith...
A Blwyddyn Newydd Dda gennyf i hefyd.
magi
----- Original Message -----
From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, December 31, 2002 01:35
Subject: sudden onset of sleep
> Dw i'n cyfieithu dogfen ynghylch clefyd Parkinson, a chyfeirir at y
ffaith y
> gall rhai o'r cyffuriau a ddefnyddir i'w drin achosi "sudden onset of
> sleep". O'r ffordd y defnyddir yr ymadrodd, yn y ddogfen hon ac mewn
> dofennau eraill ar y we, mae'n amlwg ei fod yn ymadrodd gosod a
ddefnyddir
> ar gyfer cyflwr arbennig. A yw unrhyw un wedi dod ar draws ymadrodd
> swyddogol/safonol cyfateb yn y Gymraeg?
>
> Diolch - a Blwyddyn Newydd da ichi i gyd!
>
> Ann
|