Diolch i bawb am eu hatebion hyd yma. Dydwi ddim yn hoff o 'cyrchddull'
chwaith mae arna'i ofn. Efallai y byddai 'dull' ar ei ben ei hun yn
ddigonol ar gyfer y cyd-destun.
Catrin
----- Original Message -----
From: "Kenneth Owen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 29, 2002 2:44 PM
Subject: Re: Project Proposal for an All Wales Approach
Fy nheimlad i yw ddylem ni ddieithrio ein cynulleidfa. Pan yw Gwilym Owen
yn Golwg yn bytheirio yn erbyn geiriau fel 'didyniadau' am 'deductions', pa
obaith sydd yna o gael pobl i ddeall a derbyn 'cyrchddull'. Onid nod unrhyw
gyfieithydd gwerth ei halen yw paratoi trosiad sy'n ddealladwy i bawb - heb
orfod troi at y fersiwn Saesneg i ddeall yr ystyr? Os bydd darllenwyr yn
gorfod troi at y Saesneg, mae'n golygu bod y fersiwn Cymraeg wedi methu.
Rwy'n gyfieithydd ac mae arna'i ofn na fyddwn i'n gwybod ystyr 'cyrchddull'
petawn i'n ei weld o mewn brawddeg.
Ken Owen
Marian-glas
----- Original Message -----
From: Muiris Mag Ualghairg <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 29 November 2002 14:35
Subject: Re: Project Proposal for an All Wales Approach
Dw i'n credu y byddwn i'n cytuno â Ken ac wedi chwilio Google nodaf y ceir
pum enghraifft o 'cyrchddull' a 386 o 'ymdriniaeth'.
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 29, 2002 2:14 PM
Subject: Project Proposal for an All Wales Approach
> Mae'n debyg y byddai ond mae cyrchddull yn cael ei ddefnyddio yn eitha
> eang erbyn hyn mewn amryw byd o waith amrywiol.
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.423 / Virus Database: 238 - Release Date: 25/11/02
|