Petai cardiau'n cael eu defnyddio ym Mhrydain buaswn i'n tybio mai
'Dinesydd' yn hytrach na chenedl a fyddai'n cael ei ddefnyddio (cofiwn i'r
Cyfamodwyr a Chefn geisio cael 'Cymro/Cymraes' ar basbortau yn y 80 (yn
ofer)) a chofiwn hefyd nad yw'n bosibl, ar hyn o bryd, diffinio 'Cenedl'
dinasyddion Prydeinig yn hawdd (gwelwyd hyn pan ymadawodd Iwerddon â'r
Deyrnas Gyfunol - nid oedd yn bosibl diffinio pwy oedd yn Wyddel - neu fel
arall - yn hawdd
- gyda'r canlyniad bod pobl yr holl ynysoedd hyn yn rhannu 'cyd
ddinasyddiaeth' at bwrpasau pleidleisio ac ati (a gwasanaeth milwrol
gorfodol fel y darganfu miloedd o Wyddelod ifainc ar ôl symud draw i Brydain
yn y 40au a'r 50au a hwythau erioed wedi meddwl y byddent yn ymladd dros
Brydain!)) a bod pawb oedd yn digwydd bod ar ynys Iwerddon ar ryw ddyddiad
mympwyol yn cael ei gydnabod fel 'Gwyddel' at bwrpasau cyfreithiau Iwerddon
(ar y pryd roedd miloedd a miloedd o filwyr Prydeinig ledled Iwerddon a dyma
nhw'n troi'n Wyddelod dros nos).
----- Original Message -----
From: "David Bullock" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 15, 2002 3:47 PM
Subject: Re: national identity
Fyddai "cenedl" ar ei ben ei hun yn gwneud y tro efallai?
(E.e. ar ffurflen byddai cyfres fel
Enw/name;
Cyfeiriad/address;
Dyddiad geni/date of birth;
Cenedl/national identity;
yn ddealladwy.
----- Original Message -----
From: "John D Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, November 15, 2002 3:38 PM
Subject: national identity
Wedi bod yn edrych yn yr archifau, o Fedi 98 hyd y presennol, a'r cyfan
dwi'n ei gael yw 'No match found.'
Yng GYA eglurir fod hunaniaeth - fy newis cyntaf - yn gyfystyr â
phersonoliaeth.
Oes term wedi ei fathu i'w ddefnyddio ar gardiau adnabod?
Diolch o flaen llaw.
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.417 / Virus Database: 233 - Release Date: 08/11/02
|