Mae digon o enghreifftiau o dreigladau ac o ffurfiau cysefin ar ôl Ynys yn y
"Rhestr o Enwau Lleoedd" (Elwyn Davies) ac mae nodiadau T J Morgan ar
dreiglo neu beidio ar ôl Ynys mewn enwau lleoedd ar dudalennau 105 a 112 o
"Y Treigladau a'u Cystrawen" yn awgrymu bod y treiglad yn y cyswllt yma wedi
colli ei le dros y blynyddoedd.
Efallai fod yr -s derfynol wedi caledu'r gytsain ddilynol weithiau (fel "nos
da" ac "wythnos dwetha"), a bod dylanwad y sain wedi bod yn drech nag unrhyw
ymwybyddiaeth mai gair benywaidd yw "ynys", a ddylai ysgogi treiglad?
----- Original Message -----
From: "Kenneth Owen" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, November 14, 2002 10:11 AM
Subject: Re: Ynys Gatrin
Ynys Gybi yw'r ffurf am Holy Island, nid Ynys Cybi; felly mae Ynys Gatrin yn
berffaith dderbyniol, ddywedwn i.
Ken Owen
Marian-glas
----- Original Message -----
From: John D Williams <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: 14 November 2002 09:18
Subject: Ynys Gatrin
Yn y gerdd farwnad Marw Ysgafn Meilyr Brydydd, mae'r llinell
'Ynys Fair firain, ynys lân y saint.'
oedd yn gywir mewn Cymraeg Canol.
Ond heddiw, Ynys Môn sy'n gywir mewn Cymraeg Diweddar. Onid Ynys Catrin
fyddai'n iawn heddiw, neu ai awgrymu yr ydys mai ffurf Cymraeg Canol
sydd i'r enw?
|