Ar ôl y trafod ar 'hub' bron iawn i flwyddyn yn ôl, fe gododd y gair mewn
darn bach o 'ngwaith i pa ddydd. Ar ôl edrych drwy'r archif fe holes i
brif swyddfa'r Brifysgol ar gyfer Diwydiant yng Nghaerdydd hefyd a chael
ateb arbennig o dda, fel hyn:
"The answer to your question is that we do not have hubs in Wales, we have
learndirect partnerships."
Yn union fel yr awgrymodd Ann Corkett felly, partneriaethau ydyn nhw a
phartneriaeth yw'r gair priodol i gyfieithu 'hub'.
|