Rwy'n cytuno â Glenys.
Ruth
_________________________________________
Ruth Dennis-Jones
Golygydd/Editor
Gwasg Prifysgol Cymru/University of Wales Press
Ffôn/Tel. 029-2049-6899
Ffacs/Fax 029-2049-6108
-----Original Message-----
From: Glenys Roberts [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 10 October 2002 11:49
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Department for Education and Skills
A ie, ond taech chi'n gofyn i'r 'dyn lawr y lôn' beth yw 'gwir ystyr'
'sgil', mae'n debyg y caech chi ateb gwahanol. Ac mi fyddai'n dipyn o
dalcen caled perswadio ACCAC etc i sôn am 'fedrau allweddol' ac ati. Mi
fydda i'n cadw at 'sgiliau' ym maes addysg a hyfforddiant, ac yn dal i
ddefnyddio 'medrau' mewn meysydd eraill. Cyfaddawd gwirion efallai.
Gyda llaw, o blaid 'sgil' druan, yn ôl GPC, ryden ni wedi bod yn ei
ddefnyddio ers yr 16g o leiaf. Os oedd o'n ddigon da i William Lly^n ...
Glenys
O.N. Nid 'sgil' ydy'r gair, wrth gwrs, ond ... sorri, alla i ddim cyfleu'r
acen yn hawdd mewn e-bost!
O.O.N. Diolch i bawb fu'n poeni am fy mhroblemau cyfrifiadurol!
----- Original Message -----
From: H.K.Smith <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, October 09, 2002 4:19 PM
Subject: Re: Department for Education and Skills
> Yn ol un ffynhonnell o wybodaeth, gwir ystyr 'sgil' yn y Gymraeg yw
> 'dichell' - cymharwch a'r Saesneg 'crafty' neu 'artful'. Dyma'r rheswm ein
> bod ni yn PCB yn gwthio'r gair 'medrau' bob amser.
>
> Helen
>
>
> --
> H.K.Smith [log in to unmask]
|