1. camp fydd cael neb (hanner) cystal, go brin y cawn ni rywun/neb hanner
cystal (ag ef/a^ hi)
2. bydd hi'n anodd llenwi sgidiau hwn/hon, ddaw neb i lenwi'i (h)esgidiau
(am dipyn/am sbel go lew)
3. rwy'n cydymdeimlo a^'i (h)olynydd, druan a^'i (h)olynydd, druan a^'r sawl
ddaw ar ei (h)o^l
4. bydd talcen caled o flaen/yn wynebu ei (h)olynydd
5. bydd hi'n anodd i neb arall gyflawni campau hwn/hon, bydd hi'n anodd i
unrhyw un gyflawni'r fath gamp
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Tiplady, Lisa (OPO)" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, October 29, 2002 7:25 PM
Subject: tough act to follow
> Oes gan rywun gyfieithiad bach twt o hyn??
>
|