Ydyn ni felly i fod i sillafu 'Ewrop' fel 'Europ' hefyd? Dyma un o'r
'rheolau' twp sy'n rhoi enw drwg i gyfundrefn fonolithig ... Petai orgraff y
Ffrangeg neu'r Almaeneg yn mynnu 'w' yn lle 'u' yn 'euro', mae'n siw^r y
bydden nhw wedi cael 'derogation' i wneud hynny! Fel yn achos Microsoft (tan
yn ddiweddar, beth bynnag), does neb wedi meddwl am funud am orgraff y
Gymraeg. Beth am i ni ganiatau 'derogation' i ni'n hunain?!
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Muiris Mag Ualghairg" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, October 28, 2002 10:16 AM
Subject: Re: European single currency
> Sylwer mai 'w' sydd yn 'ewro' (gweler Geiriadur Terminoleg Trefniadaeth y
> Cynulliad). Ystyr y gair Cymraeg 'euro' yw 'to gild'.
Fy nealltwriaeth i yw bod rhaid defnyddio'r sillafiad 'Euro' i gydymffurfiad
â chyfraith y Gymuned Ewropeaidd.
http://europa.eu.int/euro/quest/normal/frame.htm?language_nb=5 1.1 G e n
e r a l
"Will the new European single currency have the same name in all the Member
States ? Yes, although it may be pronounced differently"
Mae'r sillafiad, a phwyntiau gramadegol, wedi bod yn bwnc trafod yn
Iwerddon - ond sydd wrth gwrs yn defnyddio'r arian newydd. Mae Mike Everson
(http://www.evertype.com) wedi ysgrifennu erthygl gynhwysfawr ar y pwynt ar
http://www.evertype.com/standards/euro/euro-eora-en.pdf .
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.408 / Virus Database: 230 - Release Date: 24/10/02
|