Pan ddechreuwyd sefydlu'r cyrff yma, roedd ystyr dipyn yn lletach gyda'r
term 'Trade', a rychwantai weithgareddau economaidd megis crefftau,
diwydiant, ayyb. (cf y term cyfreithiol 'restraint of trade', a gynhwysai
streiciau a gweithio i reol).
Tim
-----Original Message-----
From: Ann Corkett [mailto:[log in to unmask]]
Sent: 23 August 2002 11:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Chamber of Trade and Commerce
'Doedd Bruce ddim yn gweld bod angen defnyddio dau derm. Byddai rhyw bwynt,
meddai fo, 'tasai 'Chamber of Trade' a 'Chamber of Commerce' yn yr un dref
(a oes y fath sefyllfa rywle?), a bod 'na ryw wahaniaeth yn eu
swyddogaethau.
Ond, os yw'r cwsmer yn mynnu, gellid defnyddio 'Masnach a Marsiandi"aeth',
sydd hefyd yn golygu'r un peth!
Ann
----- Original Message -----
From: Gwen Rice <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, August 23, 2002 10:16 AM
Subject: Chamber of Trade and Commerce
> Ceir 'Siambr Fasnach' am 'Chamber of Commerce' a 'Chamber of Trade' yng
> Ngeiriadur yr Academi. Ai dyma'r unig derm pan fo 'trade' and 'commerce'
> gyda'i gilydd hefyd?
> Diolch
> Gwen
>
>
|