'Dafad' yw'r term am 'mole' yn y pen yma (Llyn ac Eifionydd), hynny yw
tyfiant, brown fel rheol, ar groen unrhyw ran o'r corff. Man, neu maen,
geni yw staen parhaol ar y croen.
Wil Roberts
----- Original Message -----
From: "John Puw" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 26, 2002 9:01 AM
Subject: Mole (removal)
Marc ar groen, yn hytrach na rhes o greaduriaid yn hongian gerfyn eu traed
ar ffens.
'Man geni' sydd yn GyrA ond roeddwn o dan yr argraff bod y marciau hyn hefyd
yn gallu datblygu ar ôl geni. Rhoddir hefyd 'man du', ond rwyf wedi gweld
rhai gwyn (neu binc neu beth bynnag yw lliw naturiol y croen).
Ai fi sydd wedi camddarllen yn anatomegol, a beth ddylwn i alw 'mole
removal' - mae 'tynnu man geni' yn swnio'n boenus ar y naw!!!
Diolch o flaen llaw am unrhyw gymorth
John Puw
---
Outgoing mail is certified Virus Free.
Checked by AVG anti-virus system (http://www.grisoft.com).
Version: 6.0.375 / Virus Database: 210 - Release Date: 10/07/2002
|