Ie, dyna fo. Bum yn cyfieithu ar y pryd ers talwm mewn sesiwn hyfforddi
athrawon cynradd lle roeddent yn dysgu amdano. Mae gen i ryw gof aneglur
ohonynt yn dysgu sut i roi gorchmynion i'w gael i symud ar hyd llwybr
arbennig, ac 'roedd twll yn ei gragen i osod pensil ynddo, i'r peth dynnu
llun wrth symud. Dw i'n meddwl mai'r syniad oedd i symud ymlaen o wneud i
grwban 'go iawn' symud at wneud i grwban rhithiol wneud pethau ar sgrin
cyfrifiadur, sef ysgrifennu rhaglenni syml.
Ann
----- Original Message -----
From: Neil Shadrach <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Thursday, July 25, 2002 11:08 AM
Subject: Re: crwban
> On Thu, 25 Jul 2002 10:59:37 +0100, teulu lewis <[log in to unmask]>
:
>
> >Help - wrthi'n gweithio ar adroddiad sy'n trafod sgiliau plant gyda
> >chyfrifiaduron - ac mae'r awdur yn son amdanynt yn datblygu eu gwaith
> >rheoli drwy ddefnyddio'r crwban ar y llawr. Rwy'n gyfarwydd a'r
> >lygoden - ond crwban?.....Be ydi o?
> >Diolch Magi
>
> Robot syml sy'n cael ei reoli gan y cyfrifiadur rwy'n credu.
>
>
|