Dim ond 'dram' glywas i erioed am 'dram' - ac roedd hen gymeriad yn
Heolgerrig pan o'n i'n fach o'r enw Dai Patsh, am mai ar y patsh rodd e'n
byw rwy'n credu. Ron i wastad yn meddwl mai enw am ddarn o dir lle rodd glo
yn cael ei godi oedd patsh, ond efallai bod patshys mwyn ahearan ar agel
hefyd.
Yn ei 'Astudiaeth Seinyddol gan gynnwys geirfa ar Dafodiaith Merthyr Tudful
a'r Cylch' (MA 1968) mae Lynn Davies yn rhestru 'ceffyl dwy ddram' fel
ymadrodd am rywun arbennig o gryf.
----- Original Message -----
From: "Eirlys Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, July 12, 2002 1:01 AM
Subject: y diwydiant haearn
> Oes gan rywun awgrymiadau yngly^n a^ sut y gallwn i gyfieithu'r
ymadroddion
> isod (sy'n ymwneud a^ hanes y diwydiant haearn)? Methu dod o hyd i'r
> geiriadur Saesneg deche heddiw.
>
> '[iron ore] patches' - beth yn union yw'r 'patches' - teitl llun (er nad
> yw'r llun ei hun ddigon clir i allu gwybod beth yn hollol yw'r 'patches'
> hyn)
>
> 'charging site' (byddai'r mwyn haearn yn cael ei drosglwyddo o'r fan honno
> i'r odynau, mae'n debyg)
>
> 'drams' - dim cysylltiad a^ 'wee dram'! - rhyw fath o gertiau oedd yn
> cludo'r cols, efallai?
>
> '[hot blast] stoves' - mae'r lluosog 'stofiau' yn swnio'n od i mi - ydi
o'n
> iawn? Ynte' oes yna rhyw air arall dwi wedi anghofio amdano? Dwi eisoes
> wedi defnyddio ffwrnais am 'furnace' a ffwrn am 'oven' yn yr un paragraff.
>
> Diolch
>
> Eirlys Williams
>
>
|