'Chwythadwy' o bosib. 'Chwyddedig' fyddwch chi ar ôl cinio Nadolig, a
'chwyddadwy' cyn dechrau arno efallai.
O ddilyn cyfres y Termiadur, 'enchwythadwy' fyddai 'inflatable'.
Ac mae'r hen ferfenw'n gallu bod mor ddefnyddiol - mi allech chi, mewn
cywair anffurfiol, fentro 'cwch efo llawr chwythu'. (Ond byddai'n rhaid
dibynnu ar y cyd-destun wedyn i awgrymu mai cael ei chwythu i mewn mae'r
gwynt, nid dianc allan!)
Mi dawa i rwan, rhag imi ddechrau swnio fel cyfieithydd chwyddedig.
Glenys
----- Original Message -----
From: John Puw <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Tuesday, July 23, 2002 6:24 PM
Subject: inflatable
'Mae gen i gwch gyda llawr pwmpiadwy.' Gallwch weld fy mhroblem, gobeithio.
Mae'n swnio fel casgliad o gyfieithwyr wedi noson (breswyl) o gynadledda!
Mae 'chwyddadwy' yn bosibl, ond dyna sut fydda i'n teimlo ar ôl gormod o
ginio 'Dolig. Mae Delyth Prys yn cynnig 'enchwythiad', 'enchwythu' ac
'enchwythedig' yn y Termau Ysgol am 'inflation', 'inflate' ac 'inflated'.
Does 'na ddim 'inflatable' yno. Fedar rhywun roi gwynt yn fy hwyliau?
Diolch o flaen llaw
John Puw
Oddi wrth John Puw,
[log in to unmask]
|