Ymddiheuriadau i bawb a gafodd y broblem, a diolch i John a Gwen am eu
negeseuon ac i Gwen am ffonio. 'Rwyf wedi cael dileu holl gof y cyfrifiadur
yn ddiweddar, ac wedi gorfod ail-osod popeth. Mae'n rhaid bod rhai o'r
gosodiadau ar gyfer negeseuon yn wahanol i beth oeddent. Cefais bore 'ma
fod y negeseuon wedi'u gosod i fynd yn HTML, yn lle "Plain Text'. Gobeithio
y bydd newid y dewis yn datrys y broblem. Gan na allaf ofyn, yn debyg i
gadeirydd mewn cyfarfod dwyieithog, i bawb nad yw'n fy neall i godi llaw, ga
i ofyn i John a Gwen roi gwybod imi (yn uniongyrchol, efallai, i arbed amser
y grw^p) a ydynt erbyn hyn yn deall y neges hon.
Diolch,
Ann
|