Yn absenoldeb Wil o'r Uned oherwydd salwch yr ydw i'n ateb gan taw fe sydd
wedi bod yn gyfrifol am gyfieithu ffurflen UCAS a'i diweddaru ers sawl
blwyddyn bellach. Y teitl a anfonais i isod yw'r hyn sydd ar y ffurflen
Gymraeg a UCAS mewn cromfachau ar ei ôl.
Byddai'n beth da cael cysondeb wrth gwrs ac fe anfona i'r neges hon ymlaen
at gyfieithwyr y sefydliadau eraill rhag ofn na fydd pawb yn gweld hon.
Elin
At 04:21 PM 6/17/02 +0100, you wrote:
>O edrych yn o^l i brosbectws Aber 1995-97, 'y Gwasanaeth Mynediad i
>Brifysgolion a Cholegau' sydd yno.
>
>O bwyso a mesur y cyfieithiad 'y Gwasanaeth Mynediad i Brifysgolion a
>Cholegau', byddwn i'n holi ai gwasanaeth yw hwn i bob coleg a phrifysgol (yn
>y byd), neu ddim ond i rai Prydain? Os gwasanaeth i rai Prydain, byddwn i'n
>dadlau - o drwch blewyn, efallai - o blaid cynnwys y fannod ynddo
>(ddwywaith).
>
>Ym mhrosbectws Bangor, 1999, 'Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a Cholegau'
>sydd yno. (Byddwn i'n dadlau bod angen ailadrodd y fannod yma hefyd.)
>
>A yw UCAS ei hun erioed wedi arddel ffurf Gymraeg swyddogol ar ei deitl yn
>ei
>ddogfennau?
>
>A allai cyd-bwyllgor cyfieithwyr y colegau a'r prifygolion gytuno ar ffurf
>safonol y cyfithiad o'r teitl hwn, a rhoi gwybod i w-t-c?
>
>Dyma'r math o derm neu deitl lle mae angen rhyw fath o Academi Francaise
>arnon ni i dorri'r ddadl a rhoi gwybod i bawb am y penderfyniad.
>
>Berwyn
>
>----- Original Message -----
>From: "Elin Williams" <[log in to unmask]>
>To: <[log in to unmask]>
>Sent: Monday, June 17, 2002 3:37 PM
>Subject: Re: UCAS
>
>
>Oes:
>
>Gwasanaeth Mynediad Prifysgolion a Cholegau
>
>hwyl!
>Elin
>
>At 03:37 PM 6/17/02 +0100, you wrote:
>>A oes 'na gyfieithiad o'r Universities and Colleges Admissions Service??
>>
>>Diolch,
>>Lisa
>>
>>
>
>
>
>
>Elin Williams
>Yr Uned Gyfieithu
>Prifysgol Cymru, Aberystwyth
>Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin,
>Aberystwyth
>Ffôn: 622355
>
>
Elin Williams
Yr Uned Gyfieithu
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin,
Aberystwyth
Ffôn: 622355
|