O edrych yn o^l i brosbectws Aber 1995-97, 'y Gwasanaeth Mynediad i
Brifysgolion a Cholegau' sydd yno.
O bwyso a mesur y cyfieithiad 'y Gwasanaeth Mynediad i Brifysgolion a
Cholegau', byddwn i'n holi ai gwasanaeth yw hwn i bob coleg a phrifysgol (yn
y byd), neu ddim ond i rai Prydain? Os gwasanaeth i rai Prydain, byddwn i'n
dadlau - o drwch blewyn, efallai - o blaid cynnwys y fannod ynddo
(ddwywaith).
Ym mhrosbectws Bangor, 1999, 'Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a Cholegau'
sydd yno. (Byddwn i'n dadlau bod angen ailadrodd y fannod yma hefyd.)
A yw UCAS ei hun erioed wedi arddel ffurf Gymraeg swyddogol ar ei deitl yn
ei
ddogfennau?
A allai cyd-bwyllgor cyfieithwyr y colegau a'r prifygolion gytuno ar ffurf
safonol y cyfithiad o'r teitl hwn, a rhoi gwybod i w-t-c?
Dyma'r math o derm neu deitl lle mae angen rhyw fath o Academi Francaise
arnon ni i dorri'r ddadl a rhoi gwybod i bawb am y penderfyniad.
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Elin Williams" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, June 17, 2002 3:37 PM
Subject: Re: UCAS
Oes:
Gwasanaeth Mynediad Prifysgolion a Cholegau
hwyl!
Elin
At 03:37 PM 6/17/02 +0100, you wrote:
>A oes 'na gyfieithiad o'r Universities and Colleges Admissions Service??
>
>Diolch,
>Lisa
>
>
Elin Williams
Yr Uned Gyfieithu
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Yr Hen Goleg, Stryd y Brenin,
Aberystwyth
Ffôn: 622355
|