Does dim angen to bach. Mewn gair unsill ac o flaen 'd', 's', 'f','dd' (o
leiaf), mae pob llafariad mewn geiriau Cymraeg cynhenid yn hir. Pwy fu'n
ddigon craff i sylwi ar hynny, wn i ddim, ond fe dybiwyd felly nad oedd
angen cynnwys to bach.
Ond wele, arbenigwyr a ddaeth o bellafoedd eu meysydd i fathu termau a
cheisio benthyca geiriau bach handi. "Bydd pobl yn meddwl mai 'cod', y gair
Saesneg am bysgodyn yw hwn," meddent, "a sut mae gwahaniaethu rhyngddo a'r
'cod' sy'n gywasgiad o 'cyfod'?' Sylwadau digon teg, ond nid felly y mae
rheolau orgraff y Gymraeg yn gweithio.
Gweler Gramadeg y Gymraeg Peter Wynn lle mae'n so^n am broblem debyg, sef
ffurfiau lluosog 'gem' a ge^m': "Er gwaethaf dyhead rhai pobl i wahaniaethu
rhwng lluosogion 'gem' a 'ge^m' drwy gadw'r acen grom ar yr ail, 'gemau' yw
ffurf gymeradwy y ddau enw." (td 783)
Berwyn
----- Original Message -----
From: "Dafydd Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Monday, May 13, 2002 3:56 PM
Subject: code
> Oes to bach ar cod => code (fel post code, ASCII code, etc.) ?
>
> Termiadur - nagoes
> GA - nagoes
> GPC - nagoes
> CySill - oes
> Cydweithwyr (2 hyd yma!) - oes
>
> Diolch am unrhyw sylwadau.
>
> Dafydd
>
> [log in to unmask]
>
|