Yn ôl Alison Layland <[log in to unmask]>:
> Mae gwefan yr Eisteddfod yn defnyddio ... a "Gwegamera" - "webcam".
Mae yna rhywbeth mawr o'i le ar sillafiad "gwegamera". Rhywbeth i'w wneud
efo gwegian ddylai peth fel hynny fod. Cofiwch chi, mi rydw i'n anfodlon
efo "camera": tydy o ddim yn cynganeddu efo "camwri", nac'di?
Pam na sillafwn ni (pace undeb tancwyr y cwrw go-iawn) "camra" neu fan
lleiaf "cámera"? Dwn i ddim i sicrwydd sut i ynghanu'r gair ond mi fyddwn
i wedi tybio mai "gwe-gamra" oedd y llall.
(Dim ond gofyn... mi a' i yn ôl i gysgu rwan.)
|