Ceir y canlynol yn 'Termau Adeiladu', Canolfan Astudiaethau Iaith Llangefni,
1993, Gwasg Ffrancon, Bethesda:
design - dyluniad, cynllun
layout - cynllun (dim llawer o help i chi)
side elevation - ochr ddryciad (??) o dan 'elevation (side)', ac 'ochrolwg'
o dan 'side (elevation)'!
sketch - braslun
detail drawing - lluniad manwl
Cyn cael gafael yn hwn, cawsom anhawster gyda'r gair 'elevation' - oherwydd
ei fod yn cyfeirio at ochr adeilad a hefyd at gynllun o ochr adeilad, ac nad
oedd 'ystlyslun' *(a^ dwy 'l')* yn addas ond ar gyfer yr ail. Defnyddiwyd
'golygwedd' yn y diwedd, ond byddai ochrolwg, blaenolwg, ayb. yn gwneud y
tro hefyd.
Ann
|