Yn ol Geiriadur y Brifysgol
gweflog = A chanddo weflau mawr, cyriog, gwefldew: large-lipped,
blubber-lipped, thick-lipped.
Awgrymaf dy fod yn bathu enw arall! (gwelog?)
Geraint
----- Original Message -----
From: Nic Dafis <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Saturday, May 18, 2002 10:11 AM
Subject: termau gweflog [weblog]
Dw i'n cyfieithu rhyngwyneb meddalwedd 'gweflogo' (sori am y bathiad
hyll - do'n i ddim wedi dod ar draws y rhestr 'ma pan dechreuais i fy
ngweflog) ar gyfer fersiwn nesaf Movable Type. Byddwn werthfawrogi
unrhyw awgrymiadau.
Yng nghydestun gweflogau, ystyr "a post" yw stori a bostwyd gan berchen
y weflog; "a comment" yw sylwadau a ychwanegwyd gan bobol eraill.
Dyma sgrīnlun y fersiwn Saesneg:
http://www.movabletype.org/screenshots/screen-blogmenu.html
Diolch yn fawr (sori am y neges hir :-/ ),
--
Nic Dafis
http://morfablog.com/
---------------------------------------
Menu - Dewislen
Help - Cymorth
Logout - Allgofnodi
Go - Ewch
Post (verb) - Postio
New Entry - Cofnod Newydd
Edit Entries - Golygu Cofnodion
Upload File - Llwytho Ffeil i Fyny
Manage (verb) - Rheoli
Templates - Patrymluniau
Categories - Dosbarthau (?? -iadau / Adrannau )
Notifications - Datganiadau ( h.y. negeseuon bod cynnwys y weflog wedi
newid)
Blog Configuration - Cyfluniad y Weflog
Utilities - Offer
Search Entries - Ymchwilio Cofnodion
Import/Export - Mewnforio/Alltforio
Rebuild Site (can be just rebuild) - Ailadeiladu
View Site (can be just view) - Gwylio'r Wefan
Assign Multiple Categories - Priodoli Dosbarthau Lluosol ( ? )
(Bydd y canlynol yn fotymau fel y ceir ar far offeryn MS Word ac ati. Dw
i'n cymryd y bydd testun tips offer yn cael ei gyfieithu, sa i'n siwr am
y botymau eu hunain.)
Bold - Duo
Italic - Italig
Underline - Tanlinellu
Link - Dolen
|