Yng nghyd-destun Cemeg Safon Uwch, wrth drafod sbectra a newidiadau
cemegol - chemical shifts felly, (ac nid changes - efallai fod gair
gwell am hwnnw hefyd) wrth gyfeirio at 'chemical shift' sbectrwm NMR
methanol dangosir saeth ac uwch ei phen y geiriau 'Down-shift'.
Yn GYA dim ond 'i lawr y cae' ac 'ymhen draw'r cae' sydd yno a does dim
byd yn y llyfrau termau sydd gen i.
Oes'na derm cydnabyddedig - efallai fel i lawr y maes, neu at waelod y
maes?
John.
|